Skip to main content

This job has expired

Gardener (Welsh Speaking)

Employer
National Trust
Location
Rhiw, Pwllheli
Salary
£19,928 per annum
Closing date
29 Sep 2019

Job Details

*Please note: Speaking Welsh is essential for this role*

Os hoffech yrfa yn garddio, gallwn gynnig rhai o’r llecynnau harddaf ym Mhrydain i chi weithio ynddyn nhw ynghyd ag un o’r casgliadau mwyaf o blanhigion yn Ewrop.

Sylwch: Bydd y swydd hon yn rhan o rota agor saith diwrnod a fydd yn cynnwys gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.

What it's like to work here

Plasty bychan wedi’i amgylchynu gan erddi addurnol a choetir llydanddail yw Plas yn Rhiw ac fe geir golygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion oddi yno. Byddwch yn cydweithio â’r prif arddwr a gwirfoddolwyr yng ngardd Plas yn Rhiw a’r coetir o’i amgylch, mewn tri bwthyn gwyliau ar y stad ac yn Sarn y Plas, a fu’n gartref i’r bardd R.S.Thomas a’i wraig, yr arlunydd Mildred Eldridge. Mae llu o bobl wrth eu bodd â’r plasty bychan, llawn cymeriad, a daw mwy a mwy o ymwelwyr yno i fwynhau’r profiad; felly, rydym yn chwilio am rywun cyfeillgar a brwd sy’n mwynhau cadw’n brysur yn y gwaith.

What you'll be doing

A chithau’n Arddwr wrth eich gwaith, byddwch yn helpu i sicrhau bod y gerddi’n cael eu cynnal i safon uchel. Byddwch yn angerddol, yn llawn brwdfrydedd ac yn wybodus am y gwahanol blanhigion sydd yn y gerddi. Bydd y gwaith yn cynnwys nifer o dasgau garddwriaethol ymarferol i ddatblygu, gwella a gwarchod yr ardd a byddwch yn cyfrannu at nifer o brosiectau. Byddwch yn helpu â gwaith tirlunio caled a meddal a gwaith cynnal a chadw cyffredinol yn yr ardd fel taenu tomwellt, tocio, clirio dail a chwynnu.  Byddwch yn helpu i blannu a chynnal coed, llwyni a phlanhigion blodeuol, gan sicrhau bod y gwaith yn cyrraedd y safonau uchaf a bod planhigion iach ar gael i’n hymwelwyr eu mwyhau. Byddwch yn helpu i dorri cloddiau, torri gwellt a gwneud gwaith rheoli’r coetir. Yn ogystal, byddwch yn cydweithio â’r prif arddwr i gynnal a gwella gerddi tri bwthyn gwyliau a gardd Sarn y Plas, sydd hefyd ar y stad.

Er y byddwch yn canolbwyntio ar ofalu am yr ardd a’i datblygu, un o’ch prif dasgau eraill fydd dirprwyo dros y Prif Arddwr yn ei absenoldeb. Bydd hyn yn golygu goruchwylio gwirfoddolwyr, mynd i gyfarfodydd ac achlysuron a drefnwyd ymlaen llaw, rhoi sgyrsiau, arwain teithiau, cyflwyno digwyddiadau a threfnu’r rhaglen. Byddwch yn gallu ateb cwestiynau am yr ardd a’r planhigion yn hyderus o ddydd i ddydd ac yn gallu helpu â chalendr digwyddiadau’r safle, Rhan arall o'r swydd fydd sicrhau bod y staff a'r gwirfoddolwyr yn cadw at reolau gweithio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bod pawb yn gwneud eu gwaith i'r safon uchaf.  

Who we're looking for

Pwy rydym yn chwilio amdano: Er mwyn llwyddo yn y swydd hon dylech fod yn gallu dangos y pethau isod;

  • Bod gennych brofiad pendant o arddio/garddwriaeth, a gwybodaeth dda am blanhigion
  • Eich bod yn gallu ymwneud yn gyfforddus â’r cyhoedd o ddydd i ddydd gan ateb eu cwestiynau
  • Eich bod yn ddigon hyderus i gymryd rhan yng ngweithgareddau a digwyddiadau’r ardd
  • Eich bod wedi’ch achredu yn unol â’r gofynion Iechyd a Diogelwch i ddefnyddio a chynnal a chadw peiriannau/offer; yn cynnwys tractor lawnt, llifiau cadwyn, tociwr gwrychoedd, torrwr mân goediach a pheiriannau torri gwellt sy’n cael eu gwthio. (Gellir rhoi hyfforddiant i’r ymgeisydd priodol)
  • Rhaid eich bod yn gallu siarad Cymraeg

The package

Buddion

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am y buddion a gynigiwn i’ch helpu.

Ymhlith y buddion mae gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd a pharcio am ddim yn y rhan fwyaf o’n safleoedd. Cewch ostyngiadau mewn siopau ar y stryd fawr a sinemâu ac yn siopau a chaffis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ogystal, cewch chi, oedolyn arall, a’ch plant (o dan 18) fynediad am ddim i safleoedd yr Ymddiriedolaeth.

Mae’ch iechyd a’ch lles yn bwysig i ni ac rydym yn dangos hynny trwy gynnig gwyliau blynyddol hael a’r cyfle i brynu dyddiau ychwanegol (yn dibynnu ar hyd y contract), cynllun seiclo i’r gwaith, cynllun arian iechyd gyda chymhorthdal a chyfle i ddefnyddio gwasanaeth cymorth di-dâl cyfrinachol 24 awr y dydd os bydd arnoch ei angen.

Mae gennym gynllun pensiwn cyfrannol y mae’r cyflogwr yn talu swm cyfatebol iddo - hyd at 10% o’ch cyflog sylfaenol - i helpu i ofalu am eich sefyllfa ariannol yn y dyfodol a gallwch hyrwyddo’ch gyrfa gyda gweithgareddau hyfforddi a datblygu pwrpasol.

Yn ogystal â hyn i gyd, cewch gyfle i dalu yn ôl i’ch cymuned gyda hyd at 5 diwrnod o wirfoddoli gyda thâl bob blwyddyn!

 

Company

There's no other organisation like the National Trust. No other organisation that brings such an amazing variety of places and spaces to life.

We are a charity founded in 1895 by Octavia Hill, Sir Robert Hunter and Canon Hardwicke Rawnsley, three people who saw the importance of our nation’s heritage and open spaces, and wanted to protect them for everyone to enjoy. More than a century after we were founded, our values are still at the heart of everything we do. And we do a lot more than you might think. 

We welcome some 22.5 million visitors, from all ages and backgrounds, every year. We care for historic houses, gardens, mills, forests, castles, miles of coastline, islands, holiday cottages, pubs and inns, whole villages and even a goldmine. We also run a huge retail chain, a multi-million pound food and beverage business and much, much more. And we do all of this so that everyone can enjoy and make the most of the green spaces and beautiful places that England, Wales and Northern Ireland has to offer. 

The National Trust is described by its employee gardeners as “dynamic, supportive, inquisitive and fun”, where its beautiful places “lift your spirits naturally” and “somewhere you can expand new skills”. The organisation is currently recruiting for a number of gardening roles. 

Read more in our latest articles:

What makes the National Trust a special place to work?

Company info
Website

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert